1. Ar 12 Rhagfyr 2022, lansiodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ymchwiliad i’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.
2. Yn rhan o’r ymchwiliad hwn, rhwng 26 a 28 Ebrill 2023, aeth y Pwyllgor i ymweld â Dulyn yn Iwerddon i gwrdd â chynrychiolwyr o Iwerddon er mwyn casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.
3. Yn ystod yr ymweliad, trafododd y Pwyllgor amryw o faterion gyda rhanddeiliaid. Ymhlith y materion hyn roedd: effaith ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd; sut mae’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn gweithio ar hyn o bryd; ymgysylltu dwyochrog rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon; blaenoriaethau rhanddeiliaid ar gyfer 2025 a thu hwnt; sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon; a chysylltiadau rhwng y Senedd a Thai'r Oireachtas.
4. Mae’r adroddiad byr hwn yn crynhoi’r trafodaethau hynny. Ceir rhestr ar ddiwedd yr adroddiad o'r sefydliadau hynny y cyfarfu'r Pwyllgor â hwy.
5. Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar i bawb am eu hamser a’u cyfraniadau yn ystod yr ymweliad.
Effaith Brexit
6. Trafododd nifer o randdeiliaid yr heriau sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig (“y DU”) â’r Undeb Ewropeaidd (“yr UE”).
7. Clywodd y Pwyllgor y cymerwyd yn ganiataol efallai, yn union ar ôl ymadawiad y DU â’r UE, y byddai’r cysylltiadau presennol yn parhau. Gwelwyd adfywiad, fodd bynnag, yn y cysylltiadau rhwng y rhai y siaradodd y Pwyllgor â hwy a’u partneriaid yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU. Roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan mewn amrywiol drefniadau rhwng y DU/Cymru ac Iwerddon yn ffyddiog y gallent feithrin y cysylltiadau hyn sy’n bodoli eisoes, o ystyried cryfder a dyfnder y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.
8. Fodd bynnag, un her y nodwyd ei bod yn codi o ganlyniad i Brexit oedd denu myfyrwyr o’r UE i astudio yn y DU. O’r blaen, byddai myfyrwyr o ogledd Ewrop yn cael eu denu i astudio yn y DU, ond roeddent bellach yn cael eu hannog i wneud cais i astudio dramor yn Iwerddon.
9. Clywodd y Pwyllgor hefyd am yr heriau sy’n wynebu sectorau sy’n ymwneud â masnach rhwng Gogledd Iwerddon/yr UE a Phrydain Fawr a thynnwyd sylw hefyd at fodel gweithredu ffiniau’r DU yn y dyfodol.
Sut mae cydweithio’n digwydd ar hyn o bryd
10. Clywodd y Pwyllgor pa mor arbennig yw’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon. Ar sawl achlysur yn ystod yr ymweliad, pwysleisiwyd y tebygrwydd rhwng y ddwy wlad, a’r diwylliant a’r hanes y maent yn eu rhannu. Teimlid ei bod yn bwysig meithrin hyn. Dywedodd un rhanddeiliad fod y berthynas wedi tyfu ar sail traddodiad y mae’r ddwy wlad yn ei rannu.
11. Clywodd y Pwyllgor am nifer o raglenni, gweithgareddau a phrosiectau llwyddiannus ar y cyd, rhai’n digwydd yn uniongyrchol oherwydd y Datganiad ar y Cyd (a’r cynllun gweithredu ar y cyd cysylltiedig). Nododd eraill eu bod wedi meithrin cysylltiadau ac wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau nad oeddent yn rhan o’r Datganiad ar y Cyd, a’u bod yn ddigon cryf ac yn ddigon gwerthfawr i oroesi heb yr ymrwymiad rhynglywodraethol hwnnw.
12. Er hyn, pwysleisiwyd pwysigrwydd strwythur ffurfiol ar gyfer cydweithredu parhaus rhwng llywodraethau er mwyn sicrhau bod y cydweithio’n parhau, yn enwedig ym meysydd diwylliant, treftadaeth, ymchwil ac iaith. Roedd y Datganiad ar y Cyd a chefnogaeth lywodraethol yn hynny o beth i’w croesawu’n fawr. Disgrifiwyd y dull o weithio mewn partneriaeth ryngwladol sy’n digwydd o ganlyniad i’r Datganiad ar y Cyd fel un sy’n “gwthio’r ffiniau”.
13. Clywodd y Pwyllgor fod y Datganiad ar y Cyd yn cynnig llwybr cryf ar gyfer ymgysylltu a chydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon. Nododd un rhanddeiliad ei fod yn darparu elfen economaidd, cysylltiad amgylcheddol, a dimensiwn diwylliannol.
14. Clywodd y Pwyllgor fod cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru ac Iwerddon yn golygu bod dealltwriaeth o fanteision diwylliannol y Datganiad ar y Cyd. Nododd un rhanddeiliad fod gwead diwylliannol cenedl yn rhan annatod o’i hunaniaeth.
15. Roedd cryfder y gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda sefydliadau diwylliannol yn amlwg o safbwynt dangos pwysigrwydd rhannu gwybodaeth. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym, er bod eu sefydliadau hwy eu hunain yn wynebu heriau, y gellir dod o hyd i'r atebion yn ein gwledydd ein gilydd.
16. Ystyrir bod y gwaith sy’n digwydd yng Nghymru ar y Gymraeg yn ysbrydoliaeth ac mae’n destun eiddigedd i rai o’r rhanddeiliaid y cyfarfuom â hwy yn Iwerddon. Clywodd y Pwyllgor fod llwyddiannau Cymru o ran dwyieithrwydd wedi braenaru’r tir i Iwerddon fentro a gwneud yr un peth.
17. Nododd un rhanddeiliad fod cryfder, grym a sefyllfa’r Gymraeg yn golygu bod llawer y gallai Iwerddon ei ddysgu gan Gymru. O ystyried yr heriau tebyg o ran nifer y siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg, ystyrid ei bod yn bwysig rhannu profiadau dysgu er mwyn sicrhau bod dulliau llwyddiannus yn cael eu hefelychu. Nododd eraill fod llawer i’w ddysgu o waith Comisiynydd y Gymraeg. Ystyrid ei bod yn bwysig defnyddio’r fforymau a’r rhwydweithiau sy’n bodoli eisoes rhwng Cymru ac Iwerddon i edrych ar y materion hyn.
18. Clywodd y Pwyllgor am waith sy’n digwydd eisoes ar y Wyddeleg. Siaradodd y Pwyllgor ag un rhanddeiliad a ddywedodd, er nad oedd yn ymwneud â gwaith partneriaeth ffurfiol ar iaith, fod cyswllt anffurfiol rheolaidd a chysylltiadau â Chymru yn parhau. Roedd y rhain yn rhoi cymorth pwysig i wahanol randdeiliaid sy'n gweithio ar ieithoedd brodorol.
19. Roedd cefnogaeth glir i’r ddwy lywodraeth barhau i gydweithio. Cafwyd nifer sylweddol o geisiadau am gydweithredu ar ystod o brosiectau newydd, a diddordeb brwd mewn gweithio gyda Chymru ar feysydd o ddiddordeb cyffredin, megis polisi iaith. Nodwyd bod angen i'r ddwy lywodraeth fod yn gyson o ran eu hymwneud â rhanddeiliaid yn hyn o beth.
Cyfleoedd ac uchelgeisiau'r dyfodol
20. Clywodd y Pwyllgor gan nifer o randdeiliaid sy’n awyddus i edrych ar gyfleoedd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae llawer o randdeiliaid yn awyddus i feithrin cysylltiadau’n uniongyrchol â sefydliadau Cymreig yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Clywodd y Pwyllgor fod y tir cyffredin sydd rhwng Cymru ac Iwerddon yn sylfaen gref i adeiladu arni.
21. Ar lefel seneddol, roedd diddordeb brwd ar y naill ochr a’r llall i Fôr Iwerddon mewn bwrw ymlaen â gweithio ar y cyd. Roedd hyn yn cynnwys trafod meysydd polisi cyffredin megis iaith a masnach, a rhannu gwybodaeth, megis adroddiadau ar wahanol feysydd polisi. Teimlid y byddai hyn yn caniatáu i'r ddwy wlad ystyried heriau cyffredin, gwella ymwybyddiaeth o’r heriau y mae’r naill a’r llall yn eu hwynebu, ac adolygu'r dulliau a ddefnyddir i ymdrin â hwy.
22. Nodwyd cyfleoedd o ran masnach a busnes hefyd. Clywodd y Pwyllgor am waith sy’n mynd rhagddo i hwyluso masnach drawsffiniol rhwng y ddwy wlad. Soniodd rhanddeiliaid am bwysigrwydd y fasnach bwyd a diod rhwng Cymru ac Iwerddon a dywedwyd bod lle i wella hyn ymhellach.
23. Clywodd y Pwyllgor am y posibilrwydd o gynyddu’r cydweithredu ar gynhyrchu ynni gwynt gan ddefnyddio adnoddau naturiol Môr Iwerddon er budd y ddwy wlad.
24. Er gwaetha’r ffaith bod y cyswllt diwylliannol rhwng y ddwy wlad eisoes yn gryf, mae’r rhanddeiliaid yn teimlo cymhelliant i wneud mwy. Clywodd y Pwyllgor fod sefydliadau diwylliannol bob amser wedi dod o hyd i ffyrdd o gydweithredu heb strwythur ffurfiol Datganiad ar y Cyd, ac y byddant yn parhau i wneud hynny. Byddai'r sefydliadau hyn yn gyfeillion y gellir ymddiried ynddynt, yn rhannu gwybodaeth ac yn gweithio gyda’i gilydd. Dywedodd un rhanddeiliad fod masnach yn canlyn diwylliant.
25. Fel gyda’r rhanddeiliaid ym maes diwylliant, dangosodd cyfranogwyr o fyd addysg ac ymchwil awydd a pharodrwydd cryf i barhau i gydweithio. Clywodd y Pwyllgor, “ er bod rhai prosiectau a ariennir gan yr UE wedi dod i ben, nid yw’r diddordeb mewn cyfleoedd cydweithio wedi dod i ben.”. Yn ogystal â nifer o brosiectau sy’n mynd rhagddynt, mae diddordeb gan y naill a’r llall hefyd mewn mynd i'r afael â nifer o faterion yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys iaith, technoleg, a diogelu cymunedau arfordirol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai gwaith gael ei ddyblygu os na fydd y ddwy wlad yn cydweithio, ac nad yw hynny o fudd i neb.
26. Yn olaf, roedd amryw o gyfleoedd i ehangu’r gwaith o ran polisi ac ymchwil iaith, gan adeiladu ar sgyrsiau anffurfiol blaenorol. Mae ariannu gwaith o’r fath yn aml wedi creu heriau o ran ffurfioli rhwydwaith o sefydliadau i gydweithio. Ystyrid bod hynny’n allweddol er mwyn dod â’r cymunedau academaidd, ieithyddol a thafodieithol lleol ynghyd yn hyn o beth. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai adeiladu rhwydweithiau o’r fath o gymorth mawr i fynd i’r afael â’r un heriau sy’n wynebu’r Gymraeg a’r Wyddeleg. Ymhlith yr heriau hynny mae dyfodol technoleg ieithyddol a deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr brodorol. Nodwyd y gallai'r cyfleoedd hyn hefyd fod yn berthnasol o ran cydweithio ar ieithoedd brodorol eraill megis y Llydaweg, y Gernyweg a Gaeleg yr Alban.
Adnoddau
27. Tynnwyd sylw hefyd at rai o’r heriau sy'n codi o ran sicrhau adnoddau ar gyfer prosiectau Cymru-Iwerddon. Mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli cyllid yr UE, gan gynnwys sut y byddai cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn y dyfodol yn cael arian ac adnoddau. Argymhellwyd hefyd y dylai llywodraethau Cymru ac Iwerddon adeiladu ar eu gwaith mewn ffordd sy’n cael mwy o effaith ar ddinasyddion.
28. Daeth yn amlwg yn ystod sawl digwyddiad ymgysylltu y gall sicrhau adnoddau cryf (o ran ariannu ac o ran cefnogaeth lywodraethol yn gyffredinol) helpu partneriaethau i fwrw ymlaen. Ond byddai gadael prosiectau sy’n ddibynnol ar adnoddau o'r fath mewn sefyllfa ansicr o ran cymorth yn y dyfodol yn niweidiol. Roedd yn bwysig gallu cael gafael ar gronfeydd mawr o arian. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cysylltiad y DU â Horizon yn allweddol ar gyfer y sectorau addysg uwch ac ymchwil – ac roedd y sector addysg uwch yng Nghymru yn rhannu’r farn hon. Roedd un brifysgol wedi derbyn €46 miliwn gan raglenni Horizon Ewrop hyd yma (Ebrill 2023). Dywedwyd wrthym fod 85 y cant o brosiectau ymchwil rhwng Cymru ac Iwerddon mewn un brifysgol yn cael ei ariannu drwy raglenni Ewropeaidd, gan gynnwys Interreg a rhaglenni ymchwil ac arloesi’r UE a bod y gwaith cydweithredu hwn, wedi’i gronni dros amser, mewn perygl os na fydd ffynonellau cyllid newydd ar gael i’w gynnal ar gyfer y dyfodol.
29. Roedd yn hanfodol cynnig tryloywder o ran cyllid yn y dyfodol i brosiectau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys darparu eglurder ynghylch pa fecanweithiau a chronfeydd cyllido y gellid eu defnyddio. Clywodd y Pwyllgor y gall cael hyd yn oed swm bach o gyllid dwyochrog gael effaith gadarnhaol ac y gall ddatgloi cyllid o gronfeydd mwy o arian. Fodd bynnag, gall diffyg eglurder olygu bod rhai ar eu colled.
30. Nododd rhai, er bod sicrhau adnoddau cryf yn mynd â phartneriaethau ymhellach, fod ffactorau eraill yn bwysig, megis rhannu gwybodaeth a gweithio'n gallach ac yn fwy effeithlon.
31. Dywedodd un rhanddeiliad, pan ofynnwyd iddo am fesur gwerth y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, nad oes modd mesur yr hyn sy’n amhrisiadwy.
Rhestr ymgysylltu
Dyddiad |
Sefydliad |
26 Ebrill 2023 |
Tai'r Oireachtas |
27 Ebrill 2023 |
Swyddfa Dulyn, Llywodraeth Cymru |
27 Ebrill 2023 |
Gŵyl Other Voices |
27 Ebrill 2023 |
Llysgenhadaeth Prydain, Dulyn |
27 Ebrill 2023 |
Adran Materion Tramor Llywodraeth Iwerddon |
27 Ebrill 2023 |
Swyddfa Datblygu Morwrol Iwerddon |
28 Ebrill 2023 |
Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon |
28 Ebrill 2023 |
Coleg Prifysgol Dulyn |
7 Mehefin 2023 |
Coleg y Drindod Dulyn[1] |
[1] Oherwydd ystyriaethau amseru, cafodd y cyfarfod hwn ei aildrefnu a chynhaliwyd cyfarfod rhithwir ar y dyddiad hwn.